Cymraeg

Defnyddio Uned Shopmobility

Ar eich ymweliad cyntaf, bydd aelod o staff yn eich helpu i lenwi eich ffurflen aelodaeth. Gofynnir i chi ddarparu dau ffurf o adnabyddiaeth, un gyda’ch llofnod a un gyda’ch cyfeiriad cartref e.e trwydded yrru, bil nwy.

Unwaith mae hwn wedi ei gwblhau bydd yr offer ar gael i’w logi.

Dangosir i chi sut i ddefnyddio’r sgwter a’ch hysbysu pa amser y dylid dychwelyd yr offer.

Scooter

Ar ddiwedd eich ymweliad

Dychwelwch eich sgwter i’r ganolfan. Os oes angen help arnoch, bydd aelod o staff yn mynd gyda chi nol i’r car.

Nodwch, am resymau iechyd a diogelwch ni chaniateir staff i godi unrhyw un.

Er hynny, os oes angen math arall o gymorth, gofynnwch.

Amser Agor

10:00am - 3:45pm

Llun - Sadwrn

Costau Llogi

Bore - £3.00
(10:00am - 1:00pm)

Prynhawn - £3.00
(1:00pm - 3:45pm)

Trwy'r Dydd - £5.00