Mae Shopmobility Caerfyrddin yn gynllun sydd yn benthyg sgwteri a chadeiriau olwyn i unrhyw un sydd â symudedd cyfyngedig er mwyn iddynt mwynhau Canol Tref Caerfyrddin.
Hyd yn oed os oes gennych anhawster cerdded difrifol, medrwch barhau i fwynhau Canol Tref Caerfyrddin.
Llogwch un o sgwteri neu gadair olwyn Shopmobility (gan gynnwys cadair olwyn gyda phecyn pŵer), a bydd y rhyddid gyda chi i siopa yn y strydoedd sydd wedi eu pedestreuddio. Mae llawer o’r ardal hyn yn cynnig arwyneb llyfn, gwastad heb gyrbau sydd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un ag anabledd.
Nid yw’n gwneud gwahaniaeth pam mae eich symudedd yn gyfyngedig neu a ydych yn byw neu’n ymweld â Chaerfyrddin. Mae Shopmobility yma i roi help llaw (neu olwyn) i unrhyw un sydd ei angen!
Rydym wedi ein lleoli ar y llawr cyntaf o faes parcio Debenhams, gerllaw y peiriannau talu a’r lle parcio anabledd. Gweler tudalen Lleoliad am fap.
Os ydych yn cyrraedd ar fws, efallai y byddwn yn medru cwrdd â chi gyda sgwter. Cysylltwch â ni er mwyn gwneud trefniadau.
Mae’n rhaid i chi fod yn aelod i logi offer – gallwch ymaelodi pan fyddwch yn llogi, bydd angen dau fath o ddogfennau adnabod. Mae mwy o fanylion ar y dudalen Llogi Offer.
Mae gennym hefyd toiled i'r anabl sy'n ddigon mawr i sgwter i'w gymryd i mewn.
10:00am - 3:45pm
Llun - Sadwrn
Bore - £3.00
(10:00am - 1:00pm)
Prynhawn - £3.00
(1:00pm - 3:45pm)
Trwy'r Dydd - £5.00